Cynorthwyydd Gweithredol i'r Cyfarwyddwr Portffolio | Executive Assistant to the Portfolio Director
7 days ago
Llandudno Junction
SCROLL DOWN FOR ENGLISH Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle cyffrous i ymuno a thîm Uchelgais Gogledd Cymru fel Cynorthwyydd Gweithredol, gan ddarparu cefnogaeth weithredol ar lefel uwch i’r Cyfarwyddwr Portffolio. Mae’r swydd yn rhan hanfodol yng nghydlynu ac rheoli dyddiadur, blaenoriaethau a trefniadau dyddiol y Cyfarwyddwr Portffolio, a hynny mewn modd proffesiynol, sensitif a chyfrinachol. Dyma rôl allweddol sydd wrth galon gwaith strategol y sefydliad a gweledigaeth hir dymor y rhanbarth ar gyfer Lles Economaidd. Mae’r rôl yn cynnig cyfle unigryw i weithio’n agos gydag ystod eang o randdeiliaid strategol, gan gynnwys awdurdodau lleol, partneriaid rhanbarthol a chenedlaethol, a’r ddwy Lywodraeth. Fel y prif bwynt cyswllt ar ran y Cyfarwyddwr Portffolio, byddwch yn cydlynu ac arwain ar drefniadau cyfarfodydd a digwyddiadau proffil uchel, adolygiadau a digwyddiadau gan gynnwys ymweliadau gweinidogol. Rydym yn chwilio am unigolyn hynod drefnus, ragweithiol a hyderus, sy’n gallu rheoli materion cymhleth, gohebiaeth sensitif a blaenoriaethau sy’n newid yn gyflym. Bydd y rôl yn cynnwys paratoi, cydlynu a sicrhau ansawdd uchel ar gyfer adroddiadau, cyflwyniadau a chynnwys ysgrifenedig ar draws y tîm, gan gynnwys prawf-ddarllen, gyda’r gallu i weithio’n hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae hefyd yn cyfrannu at reoli a datblygu cynnwys gwe Uchelgais Gogledd Cymru, gan gefnogi er mwyni sicrhau bod cynnwys yn gywir, cyfredol, cyson ac yn unol ac yn unol a brand y sefydliad. Os ydych yn rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd cyflym, sy’n gallu rheoli sawl blaenoriaeth yn effeithiol, ac sy’n ymfalchïo mewn cyfrannu at cyflawni’r gorau dros gymunedau Gogledd Cymru, byddwn yn falch iawn o glywed gennych. This role offers an exciting opportunity to join the Ambition North Wales team as an Executive Assistant, providing high‑level executive support to the Portfolio Director. Playing a vital part in co‑ordinating and managing the Portfolio Director’s diary, priorities and daily activities, handling all matters in a professional, sensitive and confidential manner. This is a key role at the heart of the organisation's strategic work and long-term vision for the Economic Well‑being of the region. It offers an unique opportunity to work closely with a wide range of strategic stakeholders, including local authorities, regional and national partners, and both Welsh and UK Governments. As the primary point of contact on behalf of the Portfolio Director, you will lead and co‑ordinate arrangements for high‑profile meetings, reviews and events, including ministerial visits. We are looking for a highly organised, proactive and confident individual, who can manage complex issues, sensitive correspondence and rapidly changing priorities. The role involves preparing, co‑ordinating and ensuring the quality of reports, presentations and written material across the team, including proof‑reading, and with the ability to work confidently in both Welsh and English. The role also contributes to the management and development of Ambition North Wales’ web content, by supporting to ensure content is accurate, up‑to‑date, consistent and aligned the organisation's brand. If you thrive in a fast‑paced environment, can work and manage multiple priorities effectively, and take pride in contributing towards delivering the best for the communities of North Wales, we'd love to hear from you. #J-18808-Ljbffr