Conwy
Foster Wales Conwy in partnership with Sanctuary Personnel Full Time | Self-Employed Make a Real Difference to a young person in Conwy as a Step-Forward Foster Carer Across Conwy, there are children and siblings who are ready to transition from residential care who need more than just a home. They need a stable, caring environment where they can rebuild trust, grow in confidence, and feel part of a family again. As a Step-Forward Foster Carer, you could provide that safe space, welcoming a child or sibling group into your home and helping them navigate this pivotal stage in their life. If you have professional experience supporting children, young people, or adults - especially those with complex needs or challenging behaviours, through work or volunteering, you may already have the qualities that matter most: patience, empathy, and the ability to guide and encourage a young person through difficult moments. Who we are looking for: • Individuals or couples who can provide full-time care in their home, • A spare bedroom or bedrooms that can be dedicated to fostering, • People willing to support siblings to remain together whenever possible, • Patient, resilient individuals who are open to learning and working with professionals, • People with experience in supporting children, young people, or adults, particularly those with complex or challenging needs What You Will Receive • An enhanced fee of £52,000 per year (equivalent to £1,000 per week) per child, plus weekly payments for the child and payments for birthdays, holidays and other activities, • Extra benefits such as council tax reduction, parking permits and access to local and national discounts and memberships, • Trauma-informed training, guidance, and professional support plus access to supportive local peer networks, • A retainer fee between fostering placements and a £500 referral payment should you successfully refer another new carer Step-Down Fostering with Foster Wales Conwy is a role that offers a unique chance to use your skills differently, providing care, stability, and hope to children at a crucial time in their lives. If you are ready to make a real difference, we would love to hear from you. Start your journey today. Gofalwr Maeth Camu Ymlaen – Cefnogi Plant sy’n Symud o Ofal Preswyl Lleoliad: Conwy Cyflogwr: Maethu Cymru Conwy Cyflog: £1000 yr wythnos fesul plentyn, a thaliadau ychwanegol ar gyfer y plentyn (lwfans plentyn, gwyliau, dathliadau pen-blwydd a dathliadau crefyddol eraill) Math o Gyflogaeth: Llawn amser | Hunangyflogedig Sector: Gofal Cymdeithasol | Addysg | Gofal Iechyd Swydd sydd Wir yn Newid Bywydau Mae Maethu Camu Ymlaen yn waith sy’n llawn gwobr, yn cefnogi plant sy’n gadael gofal preswyl i symud i gartref teuluol sefydlog. Fel Gofalwr Maeth Camu Ymlaen a gymeradwywyd, byddech yn croesawu plentyn neu grŵp brodyr a chwiorydd i’ch cartref a darparu’r gofal, sefydlogrwydd, arweiniad a’r cysondeb maent eu hangen ar amser allweddol yn eu bywydau. Mae nifer o’r plant hyn wedi cael profiad o drawma, tarfu, neu wahanu. Trwy faethu gyda Maethu Cymru Conwy, gallwch helpu plant i gadw’r cysylltiad â’u cymuned, ysgol, ffrindiau a theulu estynedig wrth eu helpu i ddatblygu’r hyder a’r sgiliau i symud ymlaen. Os oes gennych brofiad o gefnogi plant, pobl ifanc, neu oedolion, yn arbennig y rhai sydd ag anghenion cymhleth neu heriol, yna efallai y bydd gennych eisoes nifer o’r nodweddion sy’n gwneud Gofalwr Maeth gwych. Mae’r gwaith yn caniatáu i chi ddefnyddio eich sgiliau proffesiynol neu bersonol mewn ffordd hollol ystyrlon, gan ddarparu cartref gofalgar a chefnogol ble gall plant deimlo eu bod yn perthyn ac yn cael eu gwerthfawrogi fel rhan o deulu - eich teulu chi. Pwy all Wneud Cais i Ddod yn Ofalwr Maeth Camu Ymlaen? Rydym yn croesawu ymholiadau gan unigolion a/neu gyplau sydd: • Yn 21 neu hŷn (heb unrhyw uchafswm oedran), • Yn meddu ar Hawl Cyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig (gweler y diffiniad isod), • Yn gallu darparu gofal llawn amser i blentyn neu blant yn eu cartref (rhaid i o leiaf un gofalwr fod yn bresennol yn llawn amser os gwneir cais fel cwpl), • Ag ystafell wely neu ystafelloedd gwely sbâr yn benodol ar gyfer maethu Oes Gennych yr Hawl i Weithio yn y Deyrnas Unedig Cyn i chi wneud cais i fod yn Ofalwr Maeth, rhaid i chi brofi’n gyntaf eich bod yn gallu gweithio yn y Deyrnas Unedig. Gellir diffinio hyn fel: • Dinasyddion Prydeinig neu Wyddelig, • Pobl sydd â statws sefydlog neu cyn-sefydlog o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr Undeb Ewropeaidd, • Rhai sydd â fisas penodol neu ganiatâd amhenodol i aros, • Unrhyw un sydd â’r hawl cyfreithiol i fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig Sylwer: Bydd angen i chi ddangos dogfennau gwreiddiol cyn i chi ddechrau eich cais i faethu. Beth mae'r Gwaith yn ei Olygu • Gofal llawn amser am blentyn neu grŵp brodyr a chwiorydd sy’n symud o ofal preswyl, • Cynnig sefydlogrwydd, trefn a sicrwydd parhaus, • Cefnogi datblygiad emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol y plentyn, • Gweithio’n agos gyda gweithwyr cymdeithasol, therapyddion a gweithwyr proffesiynol eraill, • Cadw cofnodion clir a darparu cefnogaeth therapiwtig, meithringar, • Sicrhau bod y plentyn yn gallu cynnal cysylltiadau pwysig gyda’u teulu ehangach Pam Dewis Maethu Camu Ymlaen gyda Maethu Cymru Conwy? • Ffi uwch o £52,000 y flwyddyn (cyfwerth â £1,000 yr wythnos), • Lwfans maethu wythnosol yn gysylltiedig ag oedran ar gyfer y plentyn*, • Taliadau ar gyfer dathliad pen-blwydd, gwyliau a chrefyddol/diwylliannol*, • Taliad cadw o’r dyddiad cymeradwyo nes bod y plentyn yn cyrraedd a rhwng lleoliadau maethu a £500 am atgyfeiriad trwy Ap Care Friends Hefyd, byddwch yn cael mynediad at: • Hyfforddiant therapiwtig wedi ei deilwra i’ch profiad, • Cefnogaeth gan dîm maethu pwrpasol, • Buddion a gostyngiadau eraill megis (hyd at 100%) o ostyngiad yn Nhreth y Cyngor, trwydded barcio Cyngor Conwy, aelodaeth FfIT a mynediad at Gerdyn Blue Light ar gyfer gostyngiadau cenedlaethol *Yn unol â chyfraddau DFE yn gysylltiedig ag oedran a thaliad wythnosol yn cynyddu’n flynyddol yn unol â chwyddiant Cymerwch y Cam Cyntaf at Faethu gyda Maethu Cymru Conwy Gwnewch gais heddiw i ddysgu mwy am fod yn Ofalwr Maeth Camu Ymlaen. Sylwer: Mae symud ymlaen yn amodol ar wiriadau cefndir, asesiad a chymeradwyaeth lawn y panel maethu.