Newyddiadurwr - Fideo
1 day ago
Cardiff
This job is with BBC, an inclusive employer and a member of myGwork – the largest global platform for the LGBTQ+ business community. Please do not contact the recruiter directly. MANYLION Y SWYDD BAND Y SWYDD:C MATH O GONTRACT: Cytundeb llawn amser tan 26/03/2027 ADRAN: BBC Cymru Fyw LLEOLIAD: Y Sgwar Ganolog, Caerdydd YSTOD CYFLOG: £36,400 - £41,800 yn ddibynnol ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol. Mae'r amrediad cyflog disgwyliedig ar gyfer y swydd hon yn adlewyrchu meincnodi mewnol a gwybodaeth am y farchnad allanol. Mae sgiliau'r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni'n fodlon trafod gweithio'n hyblyg. Os hoffech chi wneud hynny, gofynnir yn garedig i chi nodi eich dymuniadau yn y cais - ond does dim rhaid i chi wneud hynny nawr. Bydd gweithio'n hyblyg yn rhan o'r drafodaeth pan gynigir y swydd. PWRPAS Y SWYDD Cyflwyniad i'r swydd Rydym yn chwilio am newyddiadurwr fidio profiadol, i ymuno gwasanaeth digidol Cymraeg y BBC. Mae'r adran yn darparu gwasanaeth newyddion Cymraeg ar BBC Cymru Fyw saith diwrnod yr wythnos. Mae staff yn gweithio ar draws sawl canolfan yng Nghymru. Prif gyfrifoldebau Mae'n gwasanaethau fidio digidol yn arf allweddol i hyrwyddo'n cynnwys a'n straeon, a hefyd i wasanaethu a thargedu cynulleidfaoedd newydd. Mae'r gallu i adnabod deunydd fidio addas i gyd-fynd a'n straeon yn allweddol, gan gynhyrchu'r gwaith ar feddalwedd ar gyfer ein gwefan a'n cyfrifon cyhoeddus fel Facebook, Instagram, Tiktok a YouTube. Bydd angen adnabod y cyfleoedd diweddaraf i sicrhau y cyrhaeddiad mwyaf posib, ar blatfformau mewn maes sy'n datblygu a newid yn rheolaidd. Yr ymgeisydd perffaith Mae angen trwyn am stori a'r gallu i ddatblygu syniadau creadigol i greu cynnwys fyddai o ddiddordeb i'r gynulleidfa Gymraeg, gyda ffocws ar fideo digidol a datblygu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cymru Fyw. Mae dealltwriaeth fanwl o blatfformau cymdeithasol yn hanfodol, er mwyn ein galluogi i wasanaethu cynulleidfaoedd newydd a iau yn fwy effeithlon. Bydd angen dealltwriaeth o'r data sydd yn ein cyrraedd er mwyn gallu teilwra cynnwys i dargedu cynulleidfaoedd newydd. Mae angen bod yn ymwybodol o faterion cyfreithiol a materion polisi golygyddol ar yr ymgeisydd buddugol. Mae'r gallu i ysgrifennu Cymraeg safonol yn gwbl hanfodol. Fe fydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu i weithio yn effeithiol dan bwysau ac i gwblhau gwaith yn gyflym, yn effeithiol ac yn brydlon - drwy gyd-weithio thimoedd eraill, yn ogystal a'r gallu i weithio ar eich pen eich hun. Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad: • Barn newyddiadurol o'r radd flaenaf, ac ymwybyddiaeth o'r gyfraith ym maes darlledu., • Cymraeg cywir a sgiliau ysgrifennu da., • Profiad o gynhyrchu deunydd fidio creadigol, ar gyfer gwasanaethau digidol, gan gynnwys ffilmio a golygu, a bod yn gyfarwydd gyda meddalwedd golygu gan gynnwys Adobe Premier Pro a Final Cut Pro., • Y gallu i addasu straeon newyddion ar gyfer fformatau sy'n gweithio'n effeithiol ar lwyfannau cymdeithasol, gan sicrhau bod y cynnwys yn weledol, trawiadol ac yn hygyrch., • Profiad o gydweithio ag eraill fel rhan o dîm bach prysur, a gweithio yn agos gyda newyddiadurwyr, cynhyrchwyr a thimau ar draws BBC Cymru i rannu deunydd yn effeithiol., • Dealltwriaeth o anghenion cynulleidfaoedd digidol. Rydym yn gweithredu cynllun gweithio hybrid - ble mae disgwyl i staff weithio rhai shifftiau neu/a dyddiau penodol yn un o swyddfeydd y BBC. Am sgwrs anffurfiol i drafod y swydd cysylltwch gyda Rhian Jones neu Tomos Lewis