Student Recruitment & Support Adviser (Cardiff, ENG, GB, CF10 1AP)
1 day ago
Cardiff
Salary: £ Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r ___ hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube). Mae dros 16,000 o fyfyrwyr o gymunedau ledled Cymru yn astudio gyda’r Brifysgol Agored ar hyn o bryd, ac mae mwy na dwy ran o dair ohonynt mewn cyflogaeth wrth astudio. Mae’r Brifysgol Agored yn gweithio gyda busnesau, elusennau, undebau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru i helpu i ddatblygu eu staff, ac i annog mwy o bobl i ddysgu gydol oes, waeth beth fo’u cefndir. Mae gan y Brifysgol fyfyrwyr ym mhob etholaeth yng Nghymru. Mae gennym gyfle cyffrous i weithiwr gwasanaethau cwsmeriaid ymuno â’r tîm rheng flaen yn ein Canolfan Gyswllt Recriwtio a Chefnogi Myfyrwyr.. Mae hon yn rôl brysur ac amrywiol, lle byddwch yn helpu ein myfyrwyr – a’r rhai sy’n ystyried astudio gyda ni – i wneud penderfyniadau am eu dysgu. Mae ein Cynghorwyr Myfyrwyr yn bwynt cyswllt cyntaf i fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr sy’n chwilio am wybodaeth am astudio gyda’r Brifysgol Agored. Mae’r tîm yn cefnogi myfyrwyr drwy sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth sydd ei hangen i wneud y dewisiadau astudio cywir iddynt, ac i gofrestru a thalu drwy’r dull o’u dewis. Mae’r tîm yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i gefnogi myfyrwyr ac ymholwyr. Mae’r rôl yn cynnwys llawer o waith ffôn, galwadau mewnol ac allanol, i ddarparu cymorth i fyfyrwyr drwy eu taith astudio, yn ogystal ag e-byst, llythyrau, sgwrs we a dulliau eraill fel bo’n angenrheidiol. Bydd angen i chi fod yn hyderus wrth weithio gyda sawl system, gwybodaeth a chronfa ddata i gynnal manylion myfyrwyr ac ymholwyr. Byddwch yn sicrhau bod gwybodaeth gywir yn cael ei rhoi i fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr, ac yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i ddarparu cymorth. Rydym yn cynnig gwasanaeth cymorth dwyieithog llawn i ymholwyr a myfyrwyr fel y gallant gyfathrebu â ni yn eu hiaith ddewisol. Mae’r cyfleoedd hyn ar gyfer gweithwyr gwasanaeth cwsmeriaid sy’n hyderus yn eu gallu i gyfathrebu yn Gymraeg neu Saesneg drwy bob sianel. Byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn ar gyfer y rôl gan Gynghorwyr profiadol presennol gan ddefnyddio deunyddiau o ansawdd uchel, ac yna cymorth, hyfforddiant a datblygiad rheolaidd gan eich Rheolwr Tîm a chyd-aelodau profiadol i adeiladu eich hyder a’ch gwybodaeth yn y rôl. Rydym yn sefydliad arloesol ac yn gweithio i ddatblygu’r cymorth a gynigiwn i’n cydweithwyr a dysgwyr Cymraeg. Fel rhan o’ch hyfforddiant, byddwch yn dysgu am y gwasanaeth dwyieithog a gynigiwn a sut y byddwch yn cymryd rhan yn cefnogi ein dysgwyr sy’n dewis cyfathrebu â ni yn Gymraeg. Mae rhwydwaith o gydweithwyr Cymraeg eu hiaith o fewn y Brifysgol, a byddwch yn cael eich cefnogi ac annog i ddefnyddio’r Gymraeg yn eich gwaith o ddydd i ddydd. Mae’r rôl hon yn llawn amser, 37 awr yr wythnos, a bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus weithio patrwm hyblyg rhwng yr oriau agor presennol sef 8.00am – 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Sylwch: bydd cyfyngiadau ar wyliau yn ystod y cyfnod hyfforddi cychwynnol, Awst, Medi, Hydref a Ionawr gan mai dyma’r cyfnod gweithredol prysuraf. • Darparu gwybodaeth i ymholwyr a myfyrwyr gan ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg yn dibynnu ar ddewis y dysgwr, gan eu cefnogi gyda’r broses gofrestru, ymholiadau am gyllid, a gwybodaeth gyffredinol am y Brifysgol Agored drwy alwadau ffôn mewnol/allanol ac e-byst yn bennaf., • Trosglwyddo galwadau’n rhagweithiol i dimau arbenigol am gyngor a chanllawiau pellach lle bo’n briodol fel rhan o fodel Gwybodaeth, Cyngor a Chanllawiau., • Gan ddefnyddio eich profiad a’ch menter, byddwch yn llywio ac yn ymateb i faterion, gan ddehongli a chymhwyso gweithdrefnau a chanllawiau yn unol â pholisïau cytunedig., • Cyflawni unrhyw dasgau gweinyddol neu brosesau sy’n gysylltiedig ag ymholiadau neu geisiadau myfyrwyr mewn modd amserol., • Cofnodi cyswllt â myfyrwyr, adolygu a diweddaru cofnodion gan ddefnyddio systemau’r Brifysgol., • Gweithio ar rota fel rhan o dîm i sicrhau bod yr holl weithgarwch yn cael ei drin yn brydlon ac yn effeithiol, ac o fewn y Lefelau Gwasanaeth a gytunwyd., • Cwrdd â’r safonau gwasanaeth disgwyliedig ac ymdrechu i’w rhagori, gan ddarparu profiad cadarnhaol i bob myfyriwr ac ymholwr drwy eu rhoi wrth galon popeth a wnewch., • Cofleidio ein diwylliant o welliant parhaus, er enghraifft drwy gymryd rhan mewn mentrau ansawdd a chyfrannu mewn cyfarfodydd tîm., • Adnabod a dathlu llwyddiannau, tra’n cymryd cyfrifoldeb i weithredu ar adborth, gan wneud pethau’n well gyda brwdfrydedd ac ymrwymiad., • Chwilio am gyfleoedd i’ch herio a’ch datblygu, gan siarad yn agored â’ch Rheolwr Tîm am eich perfformiad eich hun, ac ymdrechu i ddod yn arbenigwr yn eich maes., • Mynychu digwyddiadau hyfforddi a sesiynau briffio i sicrhau bod gennych fynediad at wybodaeth weithredol gywir a chyfredol, fel eich bod yn gallu mabwysiadu arferion a gweithdrefnau busnes cywir a sy’n esblygu., • Mynychu a chyfrannu’n weithgar mewn cyfarfodydd tîm, gan gynnig syniadau a mentrau i wella’r busnes a gwneud y ddarpariaeth gwasanaeth mor effeithlon â phosibl., • Ymgysylltu’n gadarnhaol â chefnogi a datblygu aelodau newydd o’r tîm., • Rhannu gwybodaeth ac arferion gorau ag eraill ar draws cyfadrannau ac adrannau., • Gallu cyfathrebu’n hyderus yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig., • Ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gyda agwedd “gallwn ni” ac mewn dull proffesiynol., • Profiad o ymateb i ymholiadau amrywiol ac o weithredu arnynt, gan ddefnyddio ystod eang o ffynonellau gwybodaeth., • Sgiliau cyfathrebu da, ar lafar ac yn ysgrifenedig e.e. technegau ffôn effeithiol, defnyddio Saesneg clir i egluro polisïau a gweithdrefnau ac i ysgrifennu’n glir, yn gryno ac yn gywir., • Gallu delio â gwybodaeth a gweithdrefnau dogfennedig: defnyddio menter i ddatrys problemau, gan gydnabod ffiniau., • Sgiliau TG profedig, gan gynnwys defnyddio pecynnau Microsoft Office., • Profiad o weithio’n effeithiol mewn tîm, a gweithio i gyrraedd targedau personol, tîm ac sefydliadol., • Sgiliau trefnu da gan gynnwys gallu i gwrdd â therfynau amser, gweithio’n gynhyrchiol ac yn gywir mewn amgylchedd dan bwysau., • Hyblygrwydd gan gynnwys gallu i addasu i amgylchiadau newidiol (gweithio o gartref ac o’r swyddfa), dyletswyddau ac arferion gwaith., • Tystiolaeth o ymrwymiad i ddatblygiad parhaus., • Y gallu i gynnal y rôl mewn modd sy'n gyson â deddfwriaeth cydraddoldeb a pholisïau'r Brifysgol., • Profiad o weithio mewn model hybrid ac o gyfathrebu o bell., • Profiad o weithio mewn amgylchedd addysg uwch., • Profiad o weithio mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid cymhleth aml-sianel ac o ymdopi â nifer fawr o alwadau ffôn, e-byst a gohebiaeth., • Profiad o weithio gyda system rheoli perthynas â chwsmeriaid (CRM)., • NVQ lefel 2 neu 3 mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid neu Wybodaeth, Cyngor a Chanllawiau. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio neu e-bostio gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb. Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen ___ (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd). Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch â ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi. Rhagwelir y gall trefniant gweithio hybrid gael ei fabwysiadu ar gyfer y rôl hon, lle gall yr ymgeisydd llwyddiannus weithio gartref ac yn y swyddfa. Fodd bynnag, gan fod contract y rôl hon yn cyd-fynd â'n swyddfa yng Nghaerdydd, disgwylir y bydd rhywfaint o bresenoldeb yn y swyddfa yn ofynnol pan fo angen ac mewn ymateb i anghenion busnes. Byddem yn disgwyl i hyn fod hyd at 2 diwrnod yr wythnos, ond gallai fod yn fwy aml yn ôl anghenion busnes. Mae dyddiadau cyfweliadau i'w cadarnhau. Er y bydd y rhan fwyaf o'r rolau yn parhau ar agor tan y dyddiad cau a hysbysebir, gall ceisiadau gael eu hadolygu yn barhaus. Mewn rhai achosion, gall swyddi gwag gau yn gynharach pe bai nifer digonol o geisiadau addas wedi dod i law ac mae'r effeithiau ar gydraddoldeb wedi cael eu hystyried yn briodol. Bydd yr holl rolau yn parhau i gael eu hysbysebu am o leiaf un wythnos cyn iddynt gael eu cau yn gynnar. Os ydych wedi dechrau cais neu yn y broses o wneud cais pan gaeodd yr hysbyseb, rydym yn eich annog i gysylltu â ni. Rydym yn ymrwymedig i ddeall amgylchiadau unigol ac yn gallu cynnig cymorth ychwanegol lle y bo angen, gan gynnwys addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig. I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r ddogfen/dogfennau canlynol: • CV Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.