Cynghorydd, Gwasanaethau Recriwtio a Chynorthwyo Myfyrwyr Cymru (Cardiff, ENG, GB, CF10 1AP)
19 hours ago
Cardiff
Cynghorydd, Gwasanaethau Recriwtio a Chynorthwyo Myfyrwyr Cymru (Cardiff, ENG, GB, CF10 1AP) Salary: £ Newid eich gyrfa, newid bywydau Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byr hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube). Y Rôl Mae'r Brifysgol Agored yn ymrwymedig i sicrhau bod addysg uwch ar gael i bawb a bod y daith yn ddi-dor i fyfyrwyr. Mae hefyd yn ymrwymedig i gefnogi eu llwyddiannau dysgu, ni waeth beth fo'u cefndiroedd neu gymwysterau addysgol blaenorol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio fel rhan o'n Tîm Recriwtio a Chynorthwyo Myfyrwyr. Byddwch yn helpu darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol â'u hymholiadau, yn eu helpu i wneud dewisiadau astudio unigol sy'n sicrhau llwyddiant, waeth beth y gallai hynny ei olygu iddynt. Byddwch yn defnyddio arbenigedd mewn pwnc i arwain myfyrwyr, gan ddefnyddio ein systemau mewnol i ddarparu gwybodaeth ac i wella profiadau myfyrwyr ym mhob cam o'u taith. Byddwch yn cyfathrebu â myfyrwyr dros y ffôn a thrwy e-bost yn bennaf a bydd gennych amserlen ddyddiol i'ch cefnogi i wneud hyn. Wrth i chi ennill profiad, byddwch yn cael hyfforddiant pellach ar ddefnyddio sianeli cyfathrebu eraill megis gwe-sgwrsio, galwadau allanol neu'r cyfryngau cymdeithasol. Cyfrifoldebau Allweddol Darparwyr gwasanaeth Amlsianel Rhoi gwybodaeth i ymholwyr a myfyrwyr gan eu cefnogi gyda phrosesau cofrestru, ymholiadau am gyllid a gwybodaeth gyffredinol am y Brifysgol Agored yn bennaf drwy alwadau ffôn sy'n dod mewn ac yn mynd allan a negeseuon e-bost. Trosglwyddo galwadau'n rhagweithiol i dimau arbenigol i gael cyngor ac arweiniad pellach lle bo’n briodol fel rhan o fodel Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad. Defnyddio eich profiad a'ch blaengaredd i ymchwilio i broblemau ac ymateb iddynt, dehongli a chymhwyso gweithdrefnau a chanllawiau a nodir mewn polisïau y cytunwyd arnynt. Prosesau a safonau gweithredol Cynnal unrhyw dasgau neu brosesau gweinyddol mewn perthynas â cheisiadau myfyriwr neu ymholwr mewn modd amserol. Cynnal cysylltiad â myfyrwyr ac adolygu a diweddaru cofnodion gan ddefnyddio systemau'r Brifysgol. Gweithio yn ôl rota fel rhan o dîm er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â phob gweithgaredd yn brydlon ac yn effeithiol, ac yn unol â Lefelau Gwasanaeth y cytunwyd arnynt. Cyrraedd ac anelu at ragori ar y safonau gwasanaeth disgwyliedig a nodir yn ein fframwaith ansawdd, gan ddarparu profiad cadarnhaol i bob myfyriwr ac ymholwr drwy eu cadw wrth galon popeth a wnewch Gwelliant a Datblygiad Parhaus Manteisio ar ein diwylliant o welliant parhaus drwy, er enghraifft, ymgysylltu â mentrau o ansawdd a thrwy gyfrannu at gyfarfodydd tîm. Cydnabod a dathlu llwyddiannau, tra'n cymryd cyfrifoldeb i weithredu ar adborth, a gwneud pethau'n well gyda brwdfrydedd ac ymrwymiad. Chwilio am gyfleoedd a fydd yn eich ymestyn a'ch herio, siarad yn agored â'ch Rheolwr Tîm am eich perfformiad eich hun, gan ymdrechu i ddod yn hyrwyddwr yn eich maes arbenigedd. Mynychu digwyddiadau hyfforddi a briffiau i sicrhau bod gennych wybodaeth weithredol gywir a chyfredol fel eich bod yn gallu mabwysiadu arferion a gweithdrefnau busnes cywir ac sy'n esblygu. Mynychu a chymryd rhan weithredol mewn cyfarfodydd tîm tra'n cyfrannu'n weithredol at syniadau i wella'r busnes a mentrau i wella darpariaeth y gwasanaeth. Ymgymryd yn gadarnhaol i roi cymorth i aelodau newydd o'r tîm a'u datblygu. Rhannu gwybodaeth ac arferion gorau gydag eraill ar draws ysgolion ac adrannau. Amdanoch Chi Hanfodol Ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid gwych, gydag agwedd gadarnhaol ac mewn modd proffesiynol. Profiad o ymateb i ymholiadau amrywiol a rhoi datrysiadau ar waith, gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth. Sgiliau cyfathrebu da, ar lafar ac yn ysgrifenedig e.e. technegau ffôn effeithiol, defnyddio Saesneg clir i esbonio polisïau a phrosesau ac i ysgrifennu'n glir, yn gryno ac yn gywir. Gallu delio â gwybodaeth a gweithdrefnau wedi'u dogfennu a'u dilyn: bod yn flaengar yn datrys problemau, tra'n cydnabod ffiniau. Sgiliau TGCh y gellir eu harddangos, gan gynnwys defnyddio pecynnau Microsoft Office. Profiad o weithio'n effeithiol fel rhan o dîm, a gweithio i gyflawni targedau personol, targedau tîm a thargedau sefydliadol. Sgiliau trefnu da gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser, gweithio'n gynhyrchiol ac yn gywir mewn amgylchedd cyflym. Hyblygrwydd gan gynnwys y gallu i addasu i amgylchiadau (gweithio gartref ac yn y swyddfa), dyletswyddau ac arferion gwaith amrywiol. Tystiolaeth o ddangos ymrwymiad i ddatblygiad parhaus. Y gallu i gynnal y rôl mewn modd sy'n gyson â deddfwriaeth cydraddoldeb a pholisïau'r Brifysgol. Dymunol Profiad o weithio mewn model hybrid a chyfathrebu o bell. Gallu cyfathrebu’n hyderus gan ddefnyddio’r Gymraeg. Profiad o weithio o fewn amgylchedd addysg uwch. Profiad o weithio mewn amgylchedd gwasanaethau cwsmeriaid aml-sianel cymhleth ac ymdopi â nifer fawr o alwadau, negeseuon e-bost a gohebiaeth. Profiad o weithio â system rheoli cydberthnasau â chwsmeriaid. NVQ lefel 2 neu 3 mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid neu Wybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Cymorth gyda'ch cais Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio neu e-bostio gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb. Beth yw'r buddion i chi? Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd). Trefniadau Gweithio Hyblyg Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch â ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi. Lleoliad Gweithio Rhagwelir y gall trefniant gweithio hybrid gael ei fabwysiadu ar gyfer y rôl hon, lle gall yr ymgeisydd llwyddiannus weithio gartref ac yn y swyddfa. Fodd bynnag, gan fod contract y rôl hon yn cyd-fynd â'n swyddfa yng Nghaerdydd, disgwylir y bydd rhywfaint o bresenoldeb yn y swyddfa yn ofynnol pan fo angen ac mewn ymateb i anghenion busnes. Byddem yn disgwyl i hyn fod hyd at 2 diwrnod yr wythnos, ond gallai fod yn fwy aml yn ôl anghenion busnes. Camau nesaf yn y broses Recriwtio Mae dyddiadau cyfweliadau i'w cadarnhau. Hysbysiad dyddiad cau cynnar Er y bydd y rhan fwyaf o'r rolau yn parhau ar agor tan y dyddiad cau a hysbysebir, gall ceisiadau gael eu hadolygu yn barhaus. Mewn rhai achosion, gall swyddi gwag gau yn gynharach pe bai nifer digonol o geisiadau addas wedi dod i law ac mae'r effeithiau ar gydraddoldeb wedi cael eu hystyried yn briodol. Bydd yr holl rolau yn parhau i gael eu hysbysebu am o leiaf un wythnos cyn iddynt gael eu cau yn gynnar. Os ydych wedi dechrau cais neu yn y broses o wneud cais pan gaeodd yr hysbyseb, rydym yn eich annog i gysylltu â ni. Rydym yn ymrwymedig i ddeall amgylchiadau unigol ac yn gallu cynnig cymorth ychwanegol lle y bo angen, gan gynnwys addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig. Sut i wneud cais I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r ddogfen/dogfennau canlynol: CV Datganiad Ategol hyd at 1,000 o eiriau. Yn eich datganiad, dylech egluro pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl, gan nodi enghreifftiau lle mae eich sgiliau a'ch profiadau yn cyfateb i feini prawf hanfodol y rôl hon fel y nodir uchod Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.